Fe fu na ostyngiad yng nghylchrediad papurau newydd dyddiol rhanbarthol yn y DU o 6% ar gyfartaledd gyda phob papur yng Nghymru yn gweld gostyngiad.
Y Western Mail oedd wedi gweld y gostyngiad mwyaf sef 11.1% i 23,035 yn ystod ail hanner 2012. Bu gostyngiad o 3.4% yng nghylchrediad y Daily Post, 6.8% yn y South Wales Echo a gostyngiad o 9.1% yng ngwerthiant y South Wales Evening Post.
Yn y DU dim ond dau bapur newydd dyddiol rhanbarthol a welodd gynnydd yn eu cylchrediad sef yr Ipswich Star a’r Paisley Daily Express. Y Brighton Argus a welodd y gostyngiad mwyaf yn ei gylchrediad sef 19.6% i 19,199.