Mae Aelod Cynulliad heddiw wedi galw ar Nwy Prydain i roi arian yn ôl i gwsmeriaid, ar ol i’r cwmni gyhoeddi cynnydd mawr yn ei elw.

Dywedodd Peter Black, aelod y Democratiaid Rhyddfrydol dros dde orllewin Cymru, y dylai Nwy Prydain ostwng prisiau er budd cwsmeriaid, wedi iddyn nhw gyhoeddi elw o £606 miliwn – cynnydd o 11% ers codi pris nwy o 6% ym mis Tachwedd y llynedd.

‘Elwa ar draul pobl gyffredin’

Mae Centrica, sy’n berchen Nwy Prydain, wedi amddiffyn eu helw, ond dywedodd Peter Black eu bod yn elwa ar draul pobol gyffredin:

“Does neb yn beirniadu cwmnïau am wneud elw ar eu busnes.  Mae’r cyfranddalwyr angen gwella ar eu buddsoddiad, mae gweithwyr angen tâl ac mae angen arian ar gyfer ail-fuddsoddiad.

“Ond mae’r elw diweddaraf gan Nwy Prydain yn teimlo fel eu bod yn elwa ar draul pobol sy’n gweithio’n galed i’w teuluoedd dros Gymru.”

‘Barus’

Honnodd bod yr elw o £606 miliwn wedi dod o bocedi pobol ar gyflogau isel, sydd wedi gorfod talu mwy a mwy am eu biliau ynni, ac nad yw’n deg bod rheolwyr Nwy Prydain yn derbyn bonws gwerth miliynau yr un.

“Mae pris cyfanwerthol nwy yn is nawr nag oedd bum mlynedd yn ôl.  Mae’r elw anferthol yn farus a rhagrithiol.  Onid yw’n amser i’r elw fynd yn ôl i’r cwsmer trwy gyflwyno prisiau is?”