Mae Cabinet Cyngor Gwynedd heddiw wedi  cymeradwyo argymhellion i gychwyn cyfnod o ymgynghori statudol ar gynlluniau i gau tair ysgol ac adeiladu ysgol ardal newydd gwerth £4.8 miliwn.

Bu’r cabinet yn cyfarfod heddiw i drafod cynlluniau i gau ysgolion cynradd y Groeslon, Carmel a Bronyfoel, ac yna adeiladu un ysgol newydd ar safle’r Groeslon.

Bydd y cyngor nawr yn dechrau cyfnod o ymgynghoriad a fydd yn cynnwys nifer o gyfarfodydd cyhoeddus ac asesiadau manwl o’r safle.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg ar Gyngor Gwynedd, y Cynghorydd Siân Gwenllian:

“Er ei bod yn gwbl ddealladwy y bydd y newidiadau arfaethedig yn tristau rhai yng nghymunedau Carmel a’r Fron, mae’r argymhellion, a fydd rŵan yn destun proses ffurfiol o ymgynghori, yn cynnig cyfle cyffrous i ni ddatblygu ysgol ardal newydd.

“Byddai’r ysgol ardal gwerth £4.8 miliwn yn sicrhau bod yr arian sydd ar gael i ni’n cael ei fuddsoddi mewn amgylchedd dysgu fodern haeddiannol i blant y Groeslon, Carmel a’r Fron.”

Bydd cyfnod o ymgynghori statudol yn cychwyn yn yr wythnosau nesaf pryd y gall disgyblion, rhieni, llywodraethwyr, staff ac aelodau eraill o’r cyhoedd gyflwyno’u sylwadau. Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno wedyn i’r Cabinet am benderfyniad ar y ffordd ymlaen.

Ysgol Llidiardau

Cymeradwyodd y Cabinet argymhelliad ar wahân i gynnal cyfnod o ymgynghori statudol ar ddyfodol Ysgol Llidiardau yn Rhoshirwaun.

Mae niferoedd y plant yn yr ysgol wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, gydag ond 14 o ddisgyblion mewn ysgol gyda lle i 57 ar hyn o bryd.

Bydd cyfnod o ymgynghori ffurfiol yn dechrau ar y cynnig i gau’r ysgol ar 31 Awst 2013, a symud y plant i Ysgol Crud y Werin yn Aberdaron.

Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn dilyn canlyniadau’r ymgynghoriad statudol ar ddyfodol Ysgol Llidiardau.