Michael Le Vell
Mae’r actor Michael Le Vell, sy’n chwarae rhan Kevin Webster yn Coronation Street, wedi ymddangos gerbron llys ym Manceinion, wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Manceinion y bore yma o dan ei enw go iawn, Michael Turner.
Mae’r actor, sy’n 48 oed, wedi’i gyhuddo o 19 o droseddau – chwe chyhuddiad o dreisio plentyn, chwe chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar blentyn a saith cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn.
Mae’r erlyniad yn honni i’r troseddau gael eu cyflawni rhwng 2001 a 2010, ac maen nhw i gyd yn ymwneud ag un person.
Yn y gwrandawiad, cadarnhaodd yr actor ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni, ond wnaeth e ddim cyflwyno ple.
Ond mae disgwyl i’r achos gael ei glywed yn Llys y Goron Manceinion, pan fydd Le Vell yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron ar Fawrth 20.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, a bu’n rhaid iddo ildio ei basbort.
Fydd dim hawl ganddo fe ddod i gyswllt â phlant o dan 14 oed heb oruchwyliaeth tra ei fod e ar fechnïaeth.
Cafodd ei arestio yn 2011 a’i holi mewn perthynas â chyhuddiadau o ymddwyn yn anweddus tuag at blant, ond cafodd yr achos yn ei erbyn ei ollwng cyn cyrraedd y llys.
Ond wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron astudio’r dystiolaeth yn ei erbyn, penderfynon nhw fod digon o dystiolaeth i ddwyn achos yn ei erbyn.