Mae ambiwlansys Cymru wedi methu â chwrdd â’u targed ar gyfer ymateb i alwadau brys am yr wythfed mis yn olynol, ond mae’r ffigurau wedi gwella ychydig.

Yn ôl adroddiad yr Ystadegau Gwladol heddiw cafodd 59.6% o alwadau brys ble roedd bywyd mewn peryg ymweliad gan yr ambiwlans o fewn 8 munud yn ystod mis Ionawr, sy’n brin o’r targed o 65%.

Ond mae’n welliant ar y ganran o 56.1% yn ystod mis Rhagfyr, a dyma’r gwelliant cyntaf ers mis Awst y llynedd.

Yn Ynys Môn oedd yr ymateb arafaf – 47.2% o fewn wyth munud – a siroedd Conwy, Wrecsam a Dinbych oedd â’r ymatebion mwyaf prydlon yng Nghymru.

Amrywiaeth o ardal i ardal

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, wedi dweud nad yw hi’n annisgwyl fod y targed heb gael ei gyrraedd o ystyried y tywydd rhewllyd ym mis Ionawr, ond bod yr amrywiaeth o ardal i ardal yn “annerbyniol.”

“Mae’n warthus fod dros hanner y galwadau brys yn Ynys Môn a Rhondda Cynon Tâf heb gael eu hateb o fewn yr amser darged, tra bod dros 70% o’r galwadau yn cwrdd â’r targed mewn ardaloedd megis Conwy.”

Ac mae Ceidwadwyr Cymru yn galw am fwy o ambiwlansys ac yn gofyn am addewid wrth y Llywodraeth y bydd arolwg i mewn i’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn arwain at wella amserau ymateb.

“Ychydig iawn sydd wedi newid yn ein gwasanaeth ambiwlans a gallwn ni faddau cleifion am deimlo déjà vu,” meddai Darren Millar, llefarydd iechyd  Ceidwadwyr.

“Mae cau gwasanaethau lleol yn ychwanegu at y pwysau ar staff ac mae’n hanfodol fod ad-drefnu’r gwasanaeth iechyd yn cael ei ystyried yn yr arolwg sy’n digwydd ar hyn o bryd,” meddai.