Mae olion cig ceffyl wedi cael eu darganfod yn Sir Benfro mewn briwgig eidion sy’n cael ei gynhyrchu gan gwmni o Gasnewydd.
Mae cwmni Welsh Bros Cyf yn cyflenwi cig i ysgolion a chartrefi henoed yn Sir Benfro, ac mae’n bosib bod y cig sy’n cynnwys olion cig ceffyl eisoes wedi cael ei ddosbarthu.
Roedd y cwmni wedi rhoi samplau cig ar gyfer profion fis yn ôl ond doedd dim olion cig ceffyl yn bresennol bryd hynny.
Tynnu cynnyrch yn ôl
Mae holl gynnyrch briwgig cwmni Welsh Bros wedi cael ei dynnu’n ôl yn dilyn y cyhoeddiad heddiw.
Mae cyflenwyr eraill Cyngor Sir Penfro wedi dweud nad yw eu cynnyrch nhw’n cynnwys olion cig ceffyl.
Mae cwmni Sodexo, sydd hefyd yn cyflenwi yn Sir Benfro, wedi cadarnhau bod olion cig ceffyl wedi cael eu darganfod yn eu cynnyrch nhw.
Mae cynnyrch Sodexo bellach wedi cael ei dynnu oddi ar y silffoedd.
Yn ystod y dydd mae pedwar o awdurdodau lleol eraill – Abertawe, Caerdydd, Penybont a Chaerfyrddin – hefyd wedi rhoi’r gorau i ddarparu cynnyrch y cwmni am y tro.
Ymweld â safleoedd yn Sir Benfro
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Penfro: “Mae swyddogion o Dîm Diogelwch a Safonau Bwyd Cyngor Sir Penfro yn blaenoriaethu ymweliadau â storfeydd oer, a safleoedd cynnyrch cig cymeradwy a phrosesu cig nad ydyn nhw wedi cael eu harolygu yn y 12 mis diwethaf, i wirio unrhyw ddogfennaeth berthnasol, labelu a gallu i olrhain, yn unol â chyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.”
Ychwanegodd y Cyngor y bydd samplau’n cael eu cymryd os bydd pryderon am gynnyrch.