Cardinal Keith O'Brien
Mae’r Cardinal Keith O’Brien wedi ymddiswyddo fel pennaeth Eglwys Gatholig Yr Alban yn sgil honiadau ei fod wedi ymddwyn yn anaddas tuag at offeiriaid.

Dywedodd y Cardinal O’Brien ei fod yn ymddiswyddo’n syth ac na fydd yn ymuno a’r conclaf i ddewis olynydd i’r Pab gan ddweud nad oedd am i sylw’r wasg fod arno ef ac nid y Pab a’i olynydd.