Andrew R T Davies
Fe ddywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru y dylai datganoli treth incwm arwain at drethi is i bobol gymharol gefnog.

Fe fydd Andrew R T Davies yn defnyddio araith heno i alw am y newid, a fyddai, meddai ef, yn denu rhagor o gwmnïau a phobol fusnes i Gymru.

Mae Comisiwn Silk ar ddatganoli wedi galw am ddatganoli treth incwm, ar yr amod bod Cymru’n cael chwarae teg ariannol gan Lundain ac ar ôl cynnal refferendwm.

‘Addasu rhywfaint’

Pe bai’r pwerau’n dod, meddai Andrew Davies, fe ddylen nhw gael eu defnyddio i addasu rhywfaint ar y lefel ganol o dreth.

“Mae llawer o bobol yn cydnabod mai’r broblem gydag economi Cymru yw ei anallu i greu cyfoeth,” meddai mewn cyfweliad ar Radio Wales.

“Byddai addasu’r lefel ganol yna o dreth yn sicrhau bod yr entrepreneuriaid yn dod yma.”

Y cynnig yn “anghyfrifol” medd Plaid Cymru

“Allai amseriad y cyhoeddiad yma ddim fod yn waeth,” meddai Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, am gynnig Andrew RT Davies.

“Ddyddiau’n unig ar ôl i’r Torïaid golli’r safon AAA maen nhw’n trafod torri trethi i’r rhai sy’n ennill fwyaf.

“Mae’r cyhoeddiad yn anghyfrifol ac yn dangos pam nad yw pobol Cymru yn ymddiried yn y Ceidwadwyr,” meddai Leanne Wood.

“Rydym ni rhwng tair a saith mlynedd i ffwrdd o drosglwyddo pwerau dros drethi i Gymru ac mae’n amhosibl darogan sut fydd economi Cymru bryd hynny.

“Fel gyda chynlluniau’r Canghellor am dwf, nid yw’n bosib trin y datganiad yma gan y Torïaid yn ddifrifol.

“Byddai’r cynnig yma yn helpu pobol sydd eisoes mewn swyddi sy’n talu’n dda yn y sector cyhoeddus a phreifat. Ni fyddai’n helpu busnesau sydd ar fin neu newydd gychwyn – y bobol y dylwn ni fod yn eu cefnogi er mwyn creu swyddi da tymor-hir.”

Angen refferendwm medd Llywodraeth Cymru

Yn ôl ffynhonnel sy’n agos at Lywodraeth Cymru mae’r “Toriaid Cymreig yn hapus i anwybyddu sefyllfa’r mwyaf bregus.”

“Mae peidio helpu’r rhai llai cyfoethog yng Nghymru yn ail natur i’r Toriaid,” meddai.

“Nid yw’r Toriaid wedi dweud o ble daw’r arian i gyllido’r toriad yma yn y dreth.

“Mae hefyd braidd yn gynnar i ddatblygu polisi treth pan nad yw Llywodraeth Prydain wedi dweud a yw am ddatganoli trethi i Gymru.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gosod ei safbwynt yn glir – y byddai angen refferendwm cyn datganoli pwerau dros amrwyio’r dreth incwm.

“Rydym ni’n credu y dylai pobol Cymru gael y gair olaf ar y mater.”