Nick Clegg
Fe fydd Nick Clegg yn wynebu cwestiynau heddiw ynglŷn â chelu gwybodaeth ar ôl iddo gyfaddef ei fod wedi cael gwybod pum mlynedd yn ôl bod pryderon am aflonyddwch rhywiol honedig gan yr Arglwydd Rennard.
Mae arweinydd y Democratiad Rhyddfyrdol wedi cyhoeddi datganiad ar ôl dyddiau o fynnu nad oedd yn ymwybodol o’r honiadau cyn i raglen Newyddion Channel 4 godi’r mater wythnos ddiwethaf.
Mewn datganiad neithiwr, dywedodd Nick Clegg bod ei swyddfa wedi clywed “pryderon anuniongyrchol ac amhenodol” am ymddygiad yr Arglwydd Rennard, cyn brif weithredwr y blaid, yn 2008 a’u bod wedi “gweithredu i ddelio gyda nhw.”