Cefnogwr ifanc Abertawe
Mae disgwyl y bydd tîm Abertawe yn cario Cwpan Capital One trwy’r ddinas.

Mae cynlluniau ar droed ar gyfer gorymdaith – fory fwy na thebyg – gyda’r tîm yn teithio trwy Abertawe ar fws.

Roedd yna ddathlu mawr yno neithiwr hefyd ar ôl buddugoliaeth bendant yr Elyrch.

Roedd ennill Cwpan y Cynghrair gydag Abertawe ymhlith y buddugoliaethau gorau erioed i reolwr Abertawe.

Yn ôl Michael Laudrup, doedd dim modd cymharu’r fuddugoliaeth ddoe gydag ennill cwpanau Ewropeaidd gyda Real Madrid neu Barcelona ond roedd “yno, gyda’r gorau”.

Mae’n golygu bod yr Elyrch, yn eu canfed blwyddyn, yn mynd i chwarae yn Ewrop, yng Nghynghrair Europa, ar ôl ennill eu tlws mawr cynta’ yn Lloegr.

Meddai Laudrup

“Roedd hon yn foment fawr i bawb yn y clwb – y chwaraewyr, staff ac, wrth gwrs, y cefnogwyr,” meddai Laudrup, sydd bellach yn cael ei lygadu gan rai o glybiau mawr Ewrop.

Roedd hefyd yn canmol steil y fuddugoliaeth, gydag Abertawe’n rheoli’n llwyr o’r dechrau i’r diwedd ac yn sgorio pum gôl.

“Roedd codi’r cwpan yn grêt, ond roedd y ffordd y gwnaethon ni hynny yn dweud llawer amdanon ni. Mae ennill gyda chlwb fel Abertawe yn gwbl ffantastig.”

Heddwch

Roedd yna heddwch ar y diwedd hefyd ar ôl ambell bwynt dadleuol.

  • Fe rannodd Ashley Williams a Gary Monk y gwaith o godi’r cwpan – Williams oedd y capten ar y dydd a Monk yw capten y clwb.
  • Fe ddywedodd Nathan Dyer ei fod yn maddau i Jonathan de Guzman am gymryd cic o’r smotyn, pan allai hynny fod wedi rhoi hatric iddo ef.