Paxman
Mae’r BBC am gyhoeddi miloedd o dudalennau o dystiolaeth ar benderfyniad rhaglen Newsnight i beidio darlledu adroddiad ar Jimmy Savile.

Bydd e-byst, cyfweliadau a llythyron gan gyfarwyddwyr a gohebwyr o fewn y BBC, gan gynnwys beirniadaeth lem gan gyflwynydd Newsnight, Jeremy Paxman, yn gweld golau dydd.

Cafon nhw eu cyflwyno i Ymchwiliad Pollard a ddaeth i’r casgliad fod y penderfyniad i beidio darlledu adroddiad Newsnight am honiadau o gam-drin yn erbyn Jimmy Savile yn “ddiffygiol”.

I’w cyhoeddi ar y We, ni fydd pob manylyn o’r ymchwiliad yn cael ei ryddhau.

Mae rhannau o’r dystiolaeth a fydd ar y We wedi cael eu sensro o achos bod pryder eu bod nhw’n enllibus.

Roedd Ymchwiliad Pollard, a gostiodd £2m, wedi portreadu’r BBC fel sefydliad wedi ei hollti gan elyniaeth a brwydro mewnol.