Oscar Pistorius (PA)
Mae’r seren Baralympaidd Oscar Pistorius yn parhau gyda’i frwydr am fechnïaeth heddiw ar bedwerydd diwrnod y gwrandawiad llys yn Pretoria.

Mae Pistorius wedi cyfaddef saethu ei gariad Reeva Steenkamp a ddoe roedd ei gyfreithwyr wedi dadlau fod y rhedwr yn rhy enwog i ffoi ar fechnïaeth.

Mae ei dîm ef yn dadlau mai damwain oedd y digwyddiad ond mae’r erlyniad yn honni fod Pistorius wedi “bwriadu lladd” ei gariad.

Pedair ergyd

“Saethodd e bedair ergyd, nid un,” meddai’r erlynydd Gerrie Nel. “Yr unig reswm tros saethu pedair ergyd yw i ladd.”

Mae Pistorius wedi dweud ei fod wedi saethu trwy ddrws yr ystafel ymolchi  am ei fod yn credu mai lleidr neu ladron oedd yno.

Ar ôl sylweddoli ei gamgymeriad, fe dorrodd i mewn i’r ystafell a chario corff ei gariad i lawr y grisiau, meddai.

Arweinydd newydd i’r ymchwiliad

Mewn troad dramatig ddoe cafodd y ditectif oedd yn arwain yr ymchwiliad ei ollwng o’r achos ar ôl cael ei gyhuddo ei hun o geisio llofruddio.

Mae Hilton Botha a dau blismon arall yn cael eu cyhuddo o saethu at saith o deithwyr mewn bws mini ym mis Hydref 2001. Cafodd y cyhuddiadau eu gollwng ynghynt ond ddoe cafodd Hilton Botha ei gyhuddo o’r newydd.

Vineshkumar Moonoo, Comander gyda’r gwasanaeth ditectif, sydd wedi cymryd lle Botha yn arweinydd yr ymchwiliad.

Nike

Yn y cyfamser mae cwmni offer chwaraeon Nike wedi atal cytundeb y cwmni gydag Oscar Pistorius ac yn dweud eu bod nhw’n “monitro’r sefyllfa”.

Roedd hysbyseb gan Nike yn 2011 yn dangos y rhedwr 26 oed yn llamu allan o’r blociau ar y trac gyda’r geiriau “Fi yw’r bwled yn y siambr”.