Llun o wefan y Bwrdd Iechyd
Mae dau aelod o Gyngor Iechyd Cymuned gogledd Cymru yn dweud y byddan nhw’n ymddiswyddo os na fydd newid meddwl tros gynlluniau i ddiwygio gwasanaethau.
Ac maen nhw’n dweud y bydd llawr rhagor yn ystyried gwneud yr un peth ar ôl i Bwyllgor Gwaith y Cyngor gymeradwyo cynlluniau i gau pedwar ysbyty a chau rhai gwasanaethau gofal dwys iawn i athrawon.
Roedd y ddau gynrychiolydd o Wynedd wedi bod yn trafod ymddiswyddo neithiwr ond wedi penderfynu dal yn ôl am ychydig.
‘Ystyried ymddiswyddo’
Fe ddywedodd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams wrth Radio Wales y bydd yn rhoi’r gorau iddi os na fydd newid meddwl.
Roedd Huw Edwards, cynrychiolydd o Gaernarfon, yn teimlo’r un peth ac roedd yn rhagweld y byddai rhagor yn eu cefnogi “yn enwedig yn ardal y Fflint”.
Ddoe, fe benderfynodd Pwyllgor Gwaith y Cyngor na fydden nhw’n gofyn i Weinidog Iechyd Cymru ailystyried cynlluniau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau ysbytai lleol a symud gwasanaethau dwys iawn i fabanod i Loegr.
‘Ddim yn gwrando’
“Dw i wedi bod yn mynegi barn y bobol ers misoedd ond dydyn nhw ddim yn gwrando,” meddai Eryl Jones-Williams.
Dim ond ar y radio y cafodd glywed am y penderfyniad, meddai, a doedd o ddim wedi gweld copi o’r agenda ymlaen llaw.