Gwerth y bunt a masnachwyr sy’n ceisio gwneud arian cyflym sy’n cael y bai am gynnydd mawr arall ym mhris petrol.
Yn ôl cymdeithas foduro’r AA, mae pris litr o danwydd wedi codi 5c mewn mis a cheiniog gyfan yn ystod yr wythnos ddiwetha’.
Mae ffigurau eraill yn dangos fod gwerthiant petrol wedi syrthio i’r lefel isa’ ers mwy nag 20 mlynedd ac mae’r pris yn debyg o godi eto.
Yn ogystal â gwerth y bunt, mae’r AA yn beio masnachwyr yn y farchnad stoc sy’n prynu a gwerthu tanwydd er mwyn gwneud elw cyflym.
‘Dim rhagor’
Yn ôl Llywydd y gymdeithas, mae gyrwyr yn cael eu gwasgu’n raddol i farwolaeth ac mae wedi galw ar y Canghellor i beidio â chodi’r dreth danwydd ym mis Medi.
“Mae’r cynnydd mawr ym mhris tanwydd a’i effaith ar wario yn dangos na all gyrwyr a’u teuluoedd gymryd dim rhagor,” meddai Edmund King.
“Dydyn ni ddim yn siarad bellach am ddefnyddio gyrwyr yn ffynhonnell arian ddiddiwedd a barusrwydd masnachwyr, ond am geffyl sy’n cael ei guro i farwolaeth, yn raddol ond yn sicr.”