Edwina Hart - lansio'r cynllun
Rhannau o ddinas Bangor fydd y cyntaf i gael gwasanaethau bandeang cyflym iawn o dan gynllun newydd.
Bwriad y prosiect yn y pen draw yw lledu gwasanaethau band eang cyflym ar draws y wlad – nod Llywodraeth Cymru yw cynnig cyswllt o’r fath i 96% o gartrefi a busnesau yng Nghymru.
Mae 17,500km o gebl ffeibr optegol yn mynd i gael eu gosod a tua 3,000 o flychau sy’n ganolbwynt lleol ar gyfer y ceblau.
Stryd Fawr Bangor
Mae’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a BT a heddiw mae’r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, yn dadorchuddio’r blwch band eang cyntaf ar Stryd Fawr Bangor.
“Mae heddiw yn garreg filltir bwysig wrth i ni gadw’n gair a sicrhau bod pob eiddo yn cael mynediad at fand eang yr oes newydd,” meddai Edwina Hart.
“Bydd Cyflymu Cymru yn trawsffurfio tirwedd band eang yng Nghymru, gan ei gwneud hi’n un o’r gwledydd sydd wedi ei chysylltu fwyaf o blith gwledydd Ewrop.”
Dywedodd Mike Galvin o BT Openreach fod disgwyl i’r cwsmeriaid cyntaf gysylltu â band-eang yn y gwanwyn – “Mae’n gyfnod cyffrous i’r wlad ac yn hynod bwysig i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio yma ac sydd angen gwasanaeth band eang cyflym a dibynadwy,” meddai.
Y llefydd nesa’
Bangor yw un o’r wyth lle cyntaf i fanteisio ar gynllun Cyflymu Cymru – y rhai nesaf yw Caernarfon, Dolgellau, Porthaethwy, Porthmadog, Pwllheli, Glyn Ebwy a Thredegar.
Fe fydd BT yn recriwtio 100 o brentisiaid newydd yn sgil y prosiect ac mae tri eisoes wedi eu penodi yn y gogledd. Bydd 15 o brentisiaid yn ymuno yn y gwanwyn eleni yn ystod yr ail gyfnod.