Damascus
Fe gafodd o leia’ 70 o bobol eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau ym mhrifddinas Syria.
Dyma un o’r digwyddiadau mwya’ gwaedlyd yn Namascus ers dechrau’r gwrthryfel yn erbyn yr Arlywydd Assad ddwy flynedd yn ôl.
Roedd o leia’ 53 wedi eu lladd gan fom car yn agos at swyddfeydd plaid y llywodraeth – yn ôl gwrthryfelwyr, 61 oedd y ffigwr cywir.
Roedd mwy nag 20 o bobol wedi eu lladd mewn dau ymosodiad arall ar adeiladau’r gwasanaethau cudd a’r fyddin.
Mae’r digwyddiadau’n arwydd fod pwysau’r gwrthryfelwyr yn cynyddu ar y brifddinas mewn rhyfel cartref sydd, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, wedi lladd 70,000 o bobol.