Leighton Andrews
Mae gwefan yn cael ei lansio heddiw ar gyfer rhieni sydd am weld sut mae ysgol eu plant nhw’n perfformio.

Mae gwefan Fy Ysgol Leol yn caniatáu i bobol weld gwybodaeth o bob math – sawl disgybl ac athro sydd yn yr ysgol, presenoldeb disgyblion, canrannau sy’n ennill cymwysterau, a chanran y plant sy’n cael prydau am ddim.

Mae’r wefan yn cynnwys dolen i adroddiad diweddaraf Estyn ar yr ysgol, ac mae modd i ddefnyddwyr gymharu ysgolion trwy fynd ar dudalennau ysgolion eraill.

Mae undebau athrawon Cymru wedi bod yn erbyn cynghreiriau sy’n gosod un ysgol yn erbyn y llall.

Meddai Leighton Andrews

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, fod y wefan yn cynnig “darlun cliriach i rieni o sut mae ysgolion ar draws Cymru’n perfformio”.

“Mae cael ystadegau mwy agored a thryloyw ar ysgolion hefyd yn galluogi rhieni i gael trafodaeth ddeallus am godi safonau yn ein hysgolion,” meddai.

“Rydyn ni eisiau annog rhieni i gymryd diddordeb yn y ddadl ynghylch gwella ysgolion ac felly rydym ni’n cynnig y wybodaeth iddyn nhw wneud hynny.”