Darren Millar
Mae rhagor o wleidyddion wedi condemnio penderfyniad Cyngor Iechyd Cymuned gogledd Cymru am fethu ag amddiffyn gwasanaethau dwys iawn i fabanod.

Fe ddywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr bod eu penderfyniad yn achos crafu pen; ac yn ôl un o Aelodau Cynulliad yr ardal, roedd y Cyngor wedi “methu yn ei ddyletswydd sylfaenol”.

Achos y feirniadaeth oedd penderfyniad y Cyngor i beidio â gofyn i’r Gweinidog Iechyd ailystyried un o’r prif argymhellion mewn cynllun diwygio gwasanaethau gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Roedd hwnnw’n golygu y byddai rhai gwasanaethau dwys iawn i fabanod yn dod i ben yn ysbytai’r Gogledd gan olygu y byddai’n rhaid i’r plant bach a’u rhieni deithio i ysbyty dros y ffin yn Lloegr.

Roedd cyrff meddygol ac ymgyrchwyr lleol wedi gwrthwynebu’r argymhelliad a llawer wedi disgwyl y byddai’n cael ei herio gan y Cyngor Iechyd Cymunedol, sy’n cynrychioli cleifion.

Dyw’r Cyngor ddim wedi penderfynu beth i’w wneud am argymhellion eraill ond maen nhw wedi cefnogi cynlluniau i gau rhai ysbytai lleol.

Meddai’r gwleidyddion

“Fel pob un o’r cyrff meddygol proffesiynol, rydw i’n credu ei bod hi’n hanfodol fod gan ogledd Cymru ddarpariaeth fel hyn i fabanod a’u teuluoedd o fewn pellter gyrru rhesymol i’w cymunedau.

“Yn fy marn i mae’ Cyngor Iechyd wedi methu yn ei ddyletswydd sylfaenol i warchod lles cleifion yng ngogledd Cymru.” – Alun Ffred Jones, AC Arfon.

“Mae’r penderfyniad yma’n achos crafu pen llwyr. Mae Cynghorau Iechyd Cymuned i fod yn llais tros gleifion yn y Gwasanaeth Iechyd ond dyden ni ddim yn gweld llawer o dystiolaeth o hynny heddiw.

“Rydyn ni’n amau a yw penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn gwir gynrychioli barn holl aelodau’r Cyngor Iechyd Cymuned.” – Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr.