Byrger - llun cyhoeddusrwydd o wefan y Burger Manufacturing Company
Roedd saith o gynghorau sir Cymru wedi derbyn byrgers eidion gyda chig ceffyl ynddyn nhw gan gwmni yn y Canolbarth.
Mae hynny’n golygu bod deg cyngor bellach wedi tynnu byrgers oddi ar brydau bwyd yn eu hysgolion.
Yn yr achos yma, roedd cwmni cyfanwerthu o’r enw Holdsworth Foods wedi bod yn darparu byrgers i gonsortiwm o saith cyngor dan arweiniad Caerffili.
Y chwech arall yw Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Powys a Chastell Nedd Port Talbot.
Y cefndir
Roedd y byrgers wedi eu gwneud gan gwmni o’r enw y Burger Manufacturing Company o Lanfair-ym-Muallt gan ddefnyddio cynhwysion o Farmbox Meats, y cwmni yng nghanol cyrch gan yr heddlu yr wythnos ddiwetha’.
Yn ôl arweinydd Cyngor Sir Powys, roedd y cwmni byrgers wedi tynnu sylw at y broblem bosib “tua wythnos yn ôl” ac roedd y cyflenwad wedi’i atal.
Roedd y cwmni wedi gweithredu ar ôl sylweddoli eu bod yn derbyn cynhwysion gan Farmbox Meats o Landre ger Aberystwyth.
Fe ddywedodd David Jones wrth Radio Wales eu bod wedi bod yn prynu’r bwyd gan Holdsworth Foods oherwydd eu bod yn gallu olrhain tarddiad eu cynhwysion.
Fe ddywedodd hefyd bod olion o gig oen yn ogystal â chig ceffyl yn y byrgers eidion.