Mae’r Arglwydd McAlpine wedi gollwng achosion o ddifenwad yn erbyn defnyddwyr Twitter, sydd a llai na 500 o ddilynwyr, oedd wedi ei alw’n bedoffeil ar gam y llynedd.
Mae wedi gofyn iddyn nhw wneud cyfraniad o £25 tuag at elusen Plant Mewn Angen yn lle. Dywedodd yr Arglwydd McAlpine, sydd eisoes wedi derbyn iawndal sylweddol gan y BBC ac ITV, ei fod am ddod a diwedd i’r mater.
Cafodd yr Arglwydd McAlpine ei gyhuddo ar gam gan raglen Newsnight y BBC ym mis Tachwedd y llynedd o fod yn rhan o achosion o gam-drin plant mewn cartref gofal yn Wrecsam. Cafodd ei enwi sawl gwaith ar y rhyngrwyd, gan gynnwys y wefan gymdeithasol Twitter, gan sbarduno sawl achos cyfreithiol gan McAlpine.
“Wedi i mi gyrraedd cytundeb hefo’r BBC ac ITV y llynedd, hoffwn i nawr roi diwedd ar yr holl achos anffodus,” meddai.
“Rydw i wedi gollwng pob achos yn erbyn defnyddwyr Twitter sydd â llai na 500 o ddilynwyr, gan ofyn am gyfraniad at elusen y BBC, Plant Mewn Angen.”
Mae McAlpine yn parhau gyda’i achos yn erbyn Sally Bercow, gwraig Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, ynglŷn â sylwadau y gwnaeth hi ar ei chyfrif Twitter.
“Rydw i wedi gofyn i fy nghyfreithwyr ganolbwyntio ar yr achos yn erbyn Sally Bercow, ac i unrhyw daliadau sy’n dod o’r achos fynd i elusen o’i dewis hi.”