Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn gael ei weld yn ymddwyn yn amheus ger lle chwarae yn Sain Tathan, Bro Morgannwg.
Dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi eistedd yn ei gar am beth amser, cyn gweiddi ar fachgen ifanc oedd wedi bod yn chwarae, wrth iddo basio’r car. Cafodd ei weld ger y Ganolfan Gymunedol yn Lougher Place am tua 5.45yh ddydd Mercher.
Disgrifwyd y car fel un bychan, lliw arian, o bosib Peugeot 207, gyda baner Gymraeg ar yr erial.
Dywedodd yr Arolygydd Darren Grady: “Cafodd y bachgen ofn mawr o’r digwyddiad ac aeth adref yn syth i adrodd yr hanes i’w fam. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ei drin fel achos amheus ac yn apelio ar unrhyw un a welodd y cerbyd yn agos i’r ganolfan ddydd Mercher i gysylltu â ni.”
“Mae’r ymchwiliad yn awgrymu bod gan y car faner Gymraeg arno, ac mae’n cael ei weld yn aml yn yr ardal. Hoffwn glywed gan unrhyw un sy’n gwybod am leoliad y car neu â manylion am y gyrrwr.”
Mae’r dyn yn groenwyn, rhwng 40 a 45 oed a gyda blewiach ar ei wyneb. Roedd yn gwisgo cap fflat gyda phatrwm siec arno.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 101, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.