Leighton Andrews
Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi gorchymyn awdurdod lleol Caerdydd i gau ysgol uwchradd sy’n methu flwyddyn yn gynt na’r disgwyl.
Roedd Cabinet Cyngor Caerdydd eisoes wedi cytuno ar gynlluniau i gau Ysgol Uwchradd Llanrhymni ym mis Awst 2014 a’i huno gydag Ysgol Uwchradd Rhymni, ond mae Leighton Andrews am weld Ysgol Uwchradd Llanrhymni yn cael ei chau ym mis Awst eleni.
Mae’r ysgol wedi bod dan fesurau arbennig ers i Estyn gynnal arolygiad yno ym mis Hydref y llynedd.
Bwriad cyngor Caerdydd oedd symud y disgyblion Llanrhymni i Rymni a sefydlu un ysgol uwchradd fawr yn nwyrain y ddinas ym mis Medi 2014. Ond mae Leighton Andrews yn teimlo fod yr amserlen yna yn “rhy hir” ac mae wedi ysgrifennu at y cyngor i gael gweld a fyddan nhw’n gallu ei chau hi ynghynt.
‘Anfoddhaol’
Dywedodd Leighton Andrews fod “safon yr addysg sy’n cael ei darparu ar hyn o bryd gan Lanrhymni yn anfoddhaol, ac mae nifer y disgyblion sydd ar y gofrestr yn gostwng.
“Mae rhagolygon yr ysgol o ran gwella yn anfoddhaol ym marn Estyn, gan godi cwestiynau ynghylch gallu’r ysgol i wella safonau isel.
“Yn fy marn i, ac rwyf am edrych ar hyn yn ystod y broses ymgynghori, byddai cau Llanrhymni yn gynt o fudd i’w disgyblion.
“I’r awdurdod, byddai cael un ysgol i’w gwella yn ei roi mewn sefyllfa well i gefnogi a datblygu gwelliannau.”
Mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cyfnod ymgynghori o bedair wythnos gyda’r bwriad o roi cyfarwyddyd i’r awdurdod gau Ysgol Uwchradd Llanrhymni ym mis Awst eleni.