Mae gwneuthurwyr diodydd meddal wedi beirniadu galwad meddygon i roi treth o 20% ar eu cynnyrch, mewn ymdrech i fynd i’r afael a gordewdra yn y DU.
Roedd Gavin Partington, cyfarwyddwr Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain yn ymateb i adroddiad gan yr Academi Colegau Meddygol Brenhinol (AMRC), sy’n dweud mai gordewdra yw’r “argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf yn y DU.”
Mae’r adroddiad yn dweud bod 1 o bob 4 oedolyn yn ordew, a bod disgwyl i’r nifer yma gynyddu – maen nhw’n rhoi’r bai ar ddiodydd pefriog llawn siwgr, hysbysebion am fwyd afiach sy’n cael eu hanelu at blant, a gormod o siopau bwyd parod yn agos at ysgolion.
Yn ôl yr AMRC, rhaid rhoi treth o 20% ar ddiodydd llawn siwgr, er mwyn newid y diwylliant bwyd ym Mhrydain, ac addysgu pobol am fwyta’n iach.
Wrth ymateb i’r alwad, dywedodd Gavin Partington bod y cynllun yn un annheg: “Rydym ni’n cytuno bod gordewdra yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus ond yn gwrthod y syniad bod angen treth ar ddiodydd ysgafn, sy’n cyfrannu ond 2% o’r holl galorïau mewn diet arferol. Ni fydd yn helpu problem sydd yn ganlyniad i holl ddiet rhywun a’u lefelau gweithgaredd.”
Dywedodd bod gwerthiant diodydd llawn siwgr wedi disgyn tra bod nifer y gordew wedi cynyddu, a bod treth ar ddiodydd yn mynd i roi mwy o bwysau ar bocedi pobol.
Mae adroddiad yr AMRC wedi gwneud 10 awgrym i leihau gordewdra ym Mhrydain, gan gynnwys y dreth ar ddiodydd, gwahardd hysbysebion teledu am fwydydd afiach cyn 9 o’r gloch a rhoi cyngor i rieni am sut i fwydo eu plant yn iach.