Carwyn Jones ym Mharc Cathays heddiw
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y dylai materion yr heddlu gael eu datganoli i Gymru.
Gwnaeth Carwyn Jones y cyhoeddiad wrth iddo ddatgelu ei weledigaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru o fewn Teyrnas Gyfunol ddatganoledig.
Mae Llywodraeth Cymru yn galw am Ddeddf Llywodraeth Cymru newydd, a dywedodd Carwyn Jones fod angen “datblygu ac ail-strwythuro” datganoli yng Nghymru.
Bydd yr awgrym yn cael ei gyflwyno fel rhan o adroddiad i Gomisiwn Silk, sy’n gyfrifol am reoli swyddogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi awgrymu yr hoffai weld y system gyfiawnder yng Nghymru’n cael ei datganoli.
Dywedodd Carwyn Jones ei fod am weld Cymru’n cael mwy o reolaeth dros brosiectau ynni mawr ond na fydd dim ymgais gan Lywodraeth Cymru i ddatganoli materion ynni niwclear.
‘Gwneud penderfyniadau ar Gymru yng Nghymru’
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Dylid ond gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru yng Nghymru.
“Yr heddlu a chyfiawnder troseddol yw’r unig wasanaethau cyhoeddus prif ffrwd nad ydyn nhw wedi cael eu datganoli i Gymru.
“Mae’r status quo wedi dod yn anodd iawn ei gyfiawnhau.
“Dylid datganoli’r heddlu erbyn hyn.
Erbyn hyn, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau deddfu mewn 20 o feysydd ers pasio refferendwm 2011.
Mae Comisiwn Silk eisoes wedi argymell y dylai Cymru a Phrydain rannu cyfrifoldeb dros y dreth incwm erbyn 2020, ac y dylai Cymru gael yr hawl i osod ei lefel treth incwm ei hun.
Mae disgwyl rhagor o argymhellion erbyn diwedd y flwyddyn, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi rhai pethau yr hoffai weld yn deillio o’r adroddiad.
Mae Carwyn Jones wedi mynegi i ddymuniad i weld heddlu, dŵr, diogelwch ffyrdd, porthladdoedd, trwyddedau alcohol ac adloniant a gweinyddu etholiadau yn cael eu datganoli.
Dywedodd Carwyn Jones: “Lle rydym yn gwneud argymhellion ar gyfer rhagor o bwerau i Gymru, rydym yn eu gwneud nhw gyda phwrpas clir – i wella ansawdd bywyd pobol yng Nghymru.
“Dylai’r penderfyniadau allweddol ynghylch yr heddlu, ynni, trafnidiaeth gyhoeddus a diogelwch cymunedol gael eu gwneud yng Nghymru, i Gymru, gan y sawl sydd wedi eu hethol yn uniongyrchol gan bobol Cymru.”
‘Gwell hwyr na hwyrach’
Wrth ymateb i gyhoeddiad Carwyn Jones, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: “Gwell hwyr na hwyrach fod y Prif Weinidog wedi dal i fyny o’r diwedd ac wedi galw am bwerau go iawn i’n Cynulliad Cenedlaethol, ond y cwestiwn ydy, a yw ei blaid yn cefnogi ei safbwynt?
“Mae’n bryd i’r Blaid Lafur wneud eu safiad ar y mater yn glir. A yw’r llefarydd yng Nghymru, Owen Smith AS yn cefnogi’r argymhellion hyn?
“A yw Ed Miliband yn cefnogi’r argymhellion hyn? Os na, rhaid iddyn nhw ystyried pa mor arwyddocaol yw’r argymhellion hyn mewn gwirionedd.
“Fel y gwyddom ni i gyd, ychydig iawn o ddylanwad sydd gan Lywodraeth y Blaid Lafur yn draddodiadol dros eu cydweithwyr yn Llundain.
“Mae gan bobol Cymru’r hawl i wybod beth yw safiad y Blaid Lafur ar hyn.
“Mae’r Dems Rhydd yng Nghymru wedi bod yn galw am bwerau go iawn ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ers cryn amser bellach.
“Pe bai Llafur wedi gwrando ar argymhellion Comisiwn Richard, a alwodd am gryn dipyn o’r hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei argymell erbyn hyn, byddem gryn dipyn yn bellach ar y daith o gael senedd go iawn i Gymru.
“Mae’n siomedig nad oedd llywodraeth y Blaid Lafur wedi datgan yr argymhellion hyn ynghynt, yn hytrach na darganfod llais, yn gyfleus iawn, unwaith nad oedd eu plaid bellach mewn grym yn San Steffan.”
‘Gadael grym yn nwylo San Steffan’
Wrth ymateb i gyhoeddiad Carwyn Jones, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Er ein bod yn falch gyda chyfeiriad Llywodraeth Cymru, agwedd ara-deg iawn yw hon fyddai’n parhau i adael y prif fecanweithiau grym yn nwylo San Steffan.
“Y cwestiwn yw, nid pa bwerau y dylid eu trosglwyddo i Gymru, ond pryd y dylid eu trosglwyddo.
“Mae’n edrych i ni fel petai’r cynigion hyn yn golygu gadael llawer o bethau ar y bwrdd heb eu trin. Pam, er enghraifft, y dylid datganoli pwerau dros gyfiawnder troseddol mewn egwyddor ond nid mewn ffaith?
“Mae’r cyflwyniad hwn i Gomisiwn Silk yn dod gan Lywodraeth Cymru ac nid y Blaid Lafur, felly edrychwn ymlaen at ddarllen cyflwyniad swyddogol y Blaid Lafur pan gaiff hwnnw ei gyflwyno.”