Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r wraig a fu farw yn dilyn damwain mewn rali geir yn yr Alban ddoe.
Roedd Joy Robson yn 50 oed ac yn dod o Ynys Skye.
Fe anafwyd bachgen wyth oed hefyd yn y ddamwain a ddigwyddodd yng nghoedwig Glen Urquhart, rhyw bum milltir i’r gorllewin o Loch Ness. Mae’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Raigmore yn Inverness.
Mi wnaeth car rali adael y ffordd a tharo yn erbyn criw o bobl oedd yn gwylio’r ras ger Drumnadrochdit yn Ucheldiroedd yr Alban.
Cafodd y rali ei chanslo. Hon oedd rownd gyntaf Pencampwriaeth Rali’r Alban 2013.