Gavin Rees
Mae bocsiwr o Gymru wedi methu yn ei ymdrech i gipio Pencampwriaeth Ysgafn y Byd mewn gornest yn yr Unol Daleithiau neithiwr.
Roedd Gavin Rees o Drecelyn yn ymddangos yn hyderus cyn yr ornest yn Atlantic City yn erbyn Pencampwr y Byd Adrien Broner ond erbyn y trydydd rownd roedd yn ymddangos yn flinedig, fe’i lloriwyd yn y bedwaredd rownd a rhoddwyd gorau i’r ornest yn y bumed rownd wedi iddo gael ei lorio unwaith eto.
Cyfaddefodd Rees ar ôl yr ornest mewn cyfweliad gyda Sky Sports 2 ei fod wedi gwneud llawer o gamgymeriadau yn ystod yr ornest. “Mae gen i sgiliau llawer gwell na hynny ac felly rwy’n siomedig,” meddai. Talodd deyrnged i’w wrthwynebwr, gan ddweud mai Boner oedd y bocsiwr gorau iddo ei wynebu yn y cylch.
Dywedodd Boner fod Gavin Rees yn wydn a’i fod wedi perfformio’n dda.