Scarlets 18–10 Munster

Ennill fu hanes y Scarlets adref yn erbyn Munster nos Sadwrn diolch i ddeunaw pwynt o droed eu maswr ifanc, Owain Williams.

Serennodd Williams am yr ail wythnos yn olynol wrth i Fois y Sosban sicrhau ail fuddugoliaeth yn erbyn Munster yn y RaboDirect Pro12 y tymor hwn.

Hanner Cyntaf

Cafwyd hanner cyntaf digon adloniadol gyda’r ddau dîm yn ceisio chwarae rygbi ymosodol o bob rhan o’r cae. Ond er gwaethaf yr holl chwarae agored ni chafwyd cais yn y deugain munud agoriadol a’r frwydr rhwng y ddau giciwr oedd yr un bwysig.

Mae Ronan O’Gara fel arfer mor ddibynadwy i Iwerddon a Munster wrth anelu at y pyst ond methodd gyda dau gynnig cymharol hawdd allan o dair wrth i’r ymwelwyr orffen yr hanner gyda dim ond tri phwynt ar y sgôr fwrdd.

Roedd maswr ifanc y Scarlets, Owain Williams, ar y llaw arall yn cicio’n daclus iawn a llwyddodd gyda thair cic gosb gan gynnwys un o’r llinell hanner. Y Scarlets ar y blaen yn haeddianol felly o 9-3 ar yr egwyl.

Ail Hanner

Doedd yr ail hanner ddim cystal wrth i flinder a chamgymeriadau ddod fwyfwy i mewn i’r gêm. Ond o’r ddau dîm, y Scarlets lwyddodd orau i gadw eu disgyblaeth a threulio amser yn hanner y gwrthwynebwyr.

Owen Williams oedd y dyn a fanteisiodd ar hynny gan lwyddo gyda’i bedwaredd cic gosb wedi deg munud.

Yna, gyda bachwr a chapten Munster, Mike Sherry, yn y gell gosb, fe ychwanegodd y maswr gic gosb arall a gôl adlam daclus i’w hennill hi toc wedi’r awr.

Doedd fawr o syndod mai Williams oedd seren y gêm felly ond cafodd ei anfon i’r gell gosb yn y munud olaf un ac fe wnaeth asgellwr Munster, Dennis Hurley, lwyddo i sgorio cais cysur i’r Gwyddelod gyda symudiad olaf y gêm.

Mae’r canlyniad yn golygu fod y Scarlets bellach bum pwynt yn glir o Munster yn y tabl ac yn codi dros y Gweilch i’r pedwerydd safle holl bwysig.

Ymateb

Y Capten, Rob  McCusker:

“Mae hyn yn dangos lle yr ydym ni fel tîm nawr, ry’n ni wedi gwneud y dwbl dros Munster. Ry’n i braidd yn siomedig i ildio’r cais yna ar y diwedd ond fe allwn ni ddefnyddio’r perfformiad yma fel sbardun ar gyfer gweddill y tymor.”

.

Scarlets

Ciciau Cosb: Owen Williams 14’, 19’, 39’, 50’, 57’

Gôl Adlam: Owen Williams 63’

Cerdyn Melyn: Owen Williams 80’

.

Munster

Cais: Dennis Hurley 80’

Trosiad: Ronan O’Gara 80’

Cic Gosb: Ronan O’Gara 29’

Cerdyn Melyn: Mike Sherry 56’