Ysgol Gerdd Chetham's, Manceinion
Mae dyn wedi cael ei arestio gan dditectifs sy’n ymchwilio i honiadau o gam-drin rhywiol yn Ysgol Gerdd Chetham’s ym Manceinion.

Maen nhw’n honiadau sy’n mynd yn ôl rai blynyddoedd.

Fe ddaw hyn wedi i’r athrawes ffidil, Frances Andrade, 48, gyflawni hunanladdiad ar ôl rhoi tystiolaeth yn yr achos llys  yn erbyn cyn-arweinydd côr yr ysgol, Michael Brewer, a’i wraig, Kay.

Ers hynny, mae’r ddau wedi cael eu dyfarnu’n euog o gam0drin Mrs Andrade yn rhywiol.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Manceinion, mae dyn 57 oed yn y ddalfa ers bore heddiw, wedi ei arestio ar amheuaeth o dreisio.