Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dod o hyd i gorff gwr 25 oed yn yr afon Aman ger Rhydaman.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, fe ddaethpwyd o hyd i’r corff heddiw, ar ôl adroddiadau fod y dyn wedi ei weld yn cerdded i mewn i’r dwr ger Clwb Rygbi Brynaman am 3.45am.

Fe gafwyd y corff tua 8.00am, wedi i swyddogion heddlu, y gwasanaeth tân a thim achub mynydd o Aberhonddu fod yn chwilio amdano. Roedd hofrennydd hefyd yn rhan o’r chwilio.