Mae Aelod Seneddol Llafur Islwyn, Chris Evans, wedi dweud bod gwasanaethau recriwtio wyneb-yn-wyneb y Fyddin yn hanfodol ar gyfer dyfodol y lluoedd arfog.

Roedd yn siarad mewn trafodaeth yn San Steffan am gau rhai o swyddfeydd y Fyddin yng Nghymru.

Cyfeiriodd at draddodiad cryf y Fyddin yng Nghymru, gan gynnwys y Fiwsilwyr a Chatrawd Cymru, oedd yn flaenllaw yn ystod Rhyfel y Zulu yn 1879.

Siarad wyneb-yn-wyneb

Dywedodd Chris Evans: “Bydd nifer o bobol wedi ymuno oherwydd eu bod nhw wedi gallu siarad wyneb yn wyneb gyda rhywun oedd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

“Does gen i ddim amheuaeth fod y fath arbenigedd wedi galluogi pobol oedd o bosib yn gallu cael eu recriwtio i fynd i mewn i fywyd yn y lluoedd arfog gyda’u llygaid ar agor lled y pen.

“Fodd bynnag, wrth i swyddfeydd recriwtio gau ledled Cymru a thu hwnt, gallai’r gwasanaeth cynghori hanfodol hwn gael ei golli am byth.”

Cefnogaeth o Abertawe

Cafodd sylwadau Chris Evans eu hategu gan Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Abertawe, Siân James, a gyfeiriodd at bwysigrwydd cymunedol y swyddfeydd.

Dywedodd hi fod pobol “bob amser wedi edrych tuag at y lluoedd arfog fel dewis gyrfa clir” ac y dylid hwyluso’r broses o roi cyngor i bobol sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y lluoedd arfog.

Dywedodd: “Dylen ni ei gwneud hi’n haws iddyn nhw gael galwedigaeth, cael gyrfa a symud ymlaen yn eu bywydau”.

Pwysigrwydd y we

Ond tynnodd Aelod Seneddol Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Simon Hart sylw at bwysigrwydd y we wrth recriwtio pobol ar gyfer y Fyddin.

Dywedodd fod y swyddfeydd yn dibynnu fwyfwy ar wasanaethau’r we a bod angen “cyfleuster gwahanol i’r hyn oedd ar gael blynyddoedd yn ôl”.

Wrth anghytuno, dywedodd Chris Evans fod cau’r swyddfeydd yn golygu “torri’r cyswllt hanfodol hwn rhwng Cymru a’r lluoedd arfog”.

Ychwanegodd: “Mae’r dynion a’r menywod dewr yn y lluoedd arfog yn wynebu risg i’w bywydau bob dydd, ac maen nhw’n wynebu’r risg o anafiadau difrifol a marwolaeth.”

“Yng Nghymru, rydyn ni’n gwerthfawrogi’r cyfraniad mae’r lluoedd arfog yn ei wneud i’n rhyddid ni. Mae’n ffordd o fyw. Bydd yn effeithio ar deuluoedd a chyfeillion.”

Swyddfeydd yn cau

Dywedodd y byddai 7 allan o 12 o swyddfeydd y Fyddin yng Nghymru wedi cau erbyn diwedd y mis.

Y swyddfeydd sydd yn cau yw Pontypridd, Y Fenni, Caerfyrddin, Hwlffordd, Y Rhyl, Aberystwyth a Phen-y-bont ar Ogwr.