Mae’r cwmni ynni Ffrengig, EDF wedi cyhoeddi cynnydd o 4.6% mewn elw, yn rhannol oherwydd mwy o alw am ynni niwclear yn y DU.
Er gwaethaf amgylchedd economaidd anodd, dywedodd EDF bod elw wedi codi ym Mhrydain, a bod tyfiant sylweddol wedi bod yn yr Eidal.
Electricite de France yw un o gwmnïau ynni mwyaf Ewrop, a chyhoeddon nhw fod eu henillion, cyn talu trethi, wedi codi i 16.08 biliwn ewro, o 14.94 biliwn y llynedd.
Mae adran niwclear y cwmni wedi cyhoeddi’r ffigurau cynhyrchu gorau mewn saith blwyddyn ar gyfer Prydain.
Mae EDF yn rheoli 15 o weithfeydd niwclear ar 8 safle ynni dros Brydain, sy’n creu rhan sylweddol o holl egni niwclear y DU.
Biliau yn codi o 10.8%
Cyhoeddodd EDF ennillion o £1.7 biliwn ym Mhrydain ar gyfer diwedd 2012, sydd wedi denu beirniadaeth gan nifer o gwsmeriaid, wedi i’r cwmni gynyddu biliau i gwsmeriaid o 10.8% ar gyfartaledd.
Dywedodd y cwmni bod y cynnydd yn angenrheidiol gan fod adran nwy a thrydan i gartrefi preswyl yn parhau i wneud colled, gydag elw yn dod o fusnes cynhyrchu y cwmni.