Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi dweud mai Llywodraeth Cymru sydd ar fai am fethu â rhewi treth y cyngor yng Nghymru.
Gwnaeth ei sylwadau wrth ateb ymholiad gan Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb.
Gofynnodd yr AS i David Cameron a oedd yn cytuno bod Llywodraeth Cymru yn gwastraffu arian ar brosiectau eraill pan allai’r arian gael ei ddefnyddio ar gyfer rhewi treth y cyngor.
Ymatebodd Cameron trwy ddweud: “Mae’r llywodraeth hon wedi sicrhau bod arian ar gael i rewi treth y cyngor.
“Canlyniad hynny yw fod arian ar gael bellach yng Nghymru i rewi treth y cyngor, felly bydd pobol Cymru yn gwybod ar bwy mae’r bai os na fydd treth y cyngor yn cael ei rewi, hynny yw Llywodraeth Lafur Cymru.
“Nhw sydd ar fai. Nhw yw’r rhai sy’n codi rhagor o dreth y cyngor ar bobl sy’n gweithio’n galed.”
Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.