Mae’r cwmni cyfathrebu Virgin Media wedi cyhoeddi eu bod nhw’n creu 230 o swyddi yn Abertawe.

Dywed y cwmni eu bod nhw’n ehangu er mwyn cwrdd â’r galw am gyswllt band-eang cyflym a theledu’r oes nesa, ac yn creu 400 o swyddi i gyd ar gyfer peirianwyr a phobol sy’n delio â chwsmeriaid.

Mae 130 o swyddi’n cael eu creu hefyd ym Manceinion a 40 yn Birmingham.

‘Newyddion ffantastig’

Mae Aelod Cynulliad Dwyrain Abertawe, Mike Hedges, wedi disgrifio’r newyddion fel un “ffantastig” ac yn “hwb economaidd oedd ei angen yn druenus ar yr ardal.”

Mae Virgin Media eisoes yn cyflogi tua 900 o weithwyr ym maes gwasanaethau cwsmeriaid yn Abertawe ac yn ôl Paul Buttery o Virgin Media mae’r cwmni’n ceisio “cwrdd â’r galw am y bocs darlledu teledu TiVo a chyswllt band-eang cyflym iawn.”

“Rydym ni’n buddsoddi yn yr union gymunedau rydym ni’n gwasanaethu wrth inni bweru bywyd digidol Prydain,” meddai.

Mae’r Ysgrifennydd Busnes yn San Steffan, Vince Cable, wedi croesawu’r newydd gan ychwanegu fod llawer o’r swyddi yn rhai peirianyddol ac o ansawdd uchel.