Angela Merkel - Canghellor yr Almaen
Mae dwy economi fwya’ Ewrop wedi cael ergyd heddiw, wrth i ffigyrau newydd ddangos bod economïau’r Almaen a Ffrainc wedi crebachu yn ystod chwarter olaf 2012.

Mae economi yr Almaen, sef y fwya’ yn Ewrop, wedi crebachu 0.6%, ac mae arbenigwyr yn dweud mai lleihad yn allforion y wlad sydd ar fai.

Yr Almaen yw’r allforiwr fwyaf o nwyddau yn Ewrop, ac ond China sy’n allforio mwy yn y byd.  Ond, mae’r dirwasgiad wedi lleihau’r galw am y nwyddau drud mae’r Almaenwyr yn eu cynhyrchu.

Yn Ffrainc, mae eu Cynnyrch Domestig Gros, sy’n mesur y gwasanaethau a’r nwyddau sy’n cael eu cynhyrchu i gymharu â defnydd y wlad ei hun, wedi crebachu i 0% yn 2012.

Rhybuddion

Mae archwilwyr annibynnol wedi rhybuddio Ffrainc eu bod yn gwario gormod o arian, yn aml ar brosiectau gwastraffus, ond yn methu a chasglu digon o drethi. 

Cyfaddodd y prif-weinidog, Jean-Marc Ayrault, y byddai Ffrainc yn methu targedau i geisio sefydlogi economi’r wlad.

Er y canlyniadau siomedig i ddiwedd 2012, mae gobaith y bydd economi’r Almaen yn gwella yn 2013, yn dilyn arwyddion o welliant yn chwarter cyntaf y flwyddyn.