Mae pobol Cymru yn ailgylchu dros hanner ei gwastraff cartre’.
Cymru sydd â’r gyfradd ailgylchu uchaf yng ngwledydd Prydain medd John Griffiths, y Gweinidog Amgylchedd, ac mae’n “arwain y ffordd wrth reoli gwastraff yn effeithiol”.
Mae 54% o wastraff wedi cael ei ailgylchu rhwng Gorffennaf a Medi 2012, sy’n gynnydd o dri phwynt canran ar yr un cyfnod y llynedd, ac un pwynt canran ar y tri mis blaenorol rhwng Ebrill a Mehefin.
Pobol Conwy yw’r ailgylchwyr gorau ac mae 60% o wastraff wedi cael ei ailgylchu yno.
Roedd y cynnydd uchaf wedi bod yn siroedd Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, diolch i sistemau casglu gwastraff mwy effeithiol medd y Llywodraeth. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn monitro gwaith yr awdurdodau lleol ym maes ailgylchu er mwyn eu hannog i gwrdd â’r targedau.
Cyllid ac ymrwymiad
Yn ôl John Griffiths mae cynnydd wedi bod yn y gyfradd ailgylchu am fod Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy o gyllid i gynghorau er mwyn ailgylchu’n fwy effeithiol.
“Diolch i ymrwymiad pobol Cymru sy’n dewis treulio ychydig funudau pob wythnos er mwyn didoli gwastraff, yn hytrach na thaflu popeth i mewn i’r bin,” meddai wedyn.
“Mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd eto er mwyn cyrraedd ein targedau uchelgeisiol, ond rwy’n hyderus gall pobol Cymru gwrdd â’r her er mwyn diogelu ein hamgylchedd a hybu ein heconomi.”
Targed y Llywodraeth yw ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2024/25.