Mae cyn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ysbytai Swydd Lincoln wedi torri gwaharddeb gyfreithiol oedd yn ei rwystro rhag adrodd am ei brofiad yn y GIG, gan siarad gyda newyddiadurwyr heddiw.
Dywedodd Gary Walker bod rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd yn creu “diwylliant o ofn” er mwyn rhwystro unrhyw un oedd yn barod i feirniadu’r gwasanaeth.
Collodd Gary Walker ei swydd yn dilyn honiadau o gamymddygiad proffesiynol yn ei erbyn, ac fel rhan o’r cytundeb ymddiswyddo, cafodd ei rwystro rhag siarad am y mater.
Ond heddiw, siaradodd Walker gyda rhaglen radio ‘Today’ y BBC, gan ddweud iddo gael ei orfodi i ymddiswyddo am fethu â chyrraedd targedau.
Pwysau
Honnodd bod pwysau gan reolwyr a’r “amgylchedd ofnus a llethol” o fewn y GIG wedi ei wneud yn amhosib cyrraedd y targedau ar amser.
Cafodd Walker ei wahardd rhag siarad am ei bryderon ynglŷn â’r ysbytai, a thâl o £500,000 wrth ymddiswyddo. Yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd yr adroddiad ar safonau yn ysbytai Swydd Stafford na ddylai’r GIG roi gwaharddebau ar staff bellach.
Ond dywedodd Walker bod y GIG yn “llethu” unrhyw un oedd yn barod i ddatgelu gwybodaeth all achosi embaras i’r gwasanaeth a’i reolwyr.
Mae Awdurdod Iechyd Canolbarth Lloegr wedi gwadu honiadau Gary Walker yn llwyr. Dywedodd Yr Adran Iechyd bod y Llywodraeth wedi ceisio sicrhau bod y GIG yn derbyn cwynion ac yn gweithredu ar eu sail, a bod dim pryder i staff rhag gwneud cwyn.
“Problemau mawr”
“Mae problemau mawr yn y GIG. Ac os ydych chi’n ystyried bod y rheolwyr wedi creu amgylchedd ofnus a llethol yna, mae’n rhaid i bobol newydd ddod mewn i newid hynny,” meddai Walker.
Dywedodd hefyd ei fod wedi profi sefyllfa debyg iawn yn ei swydd ef, ag oedd yn destun beirniadaeth gref yn Ysbytai Swydd Stafford yn ddiweddar.
Honnodd bod pwysau mawr arno i gyrraedd targedau gofal, ond bod rhwystrau amser a staff yn ei wneud yn amhosib eu cyflawni.
Rhybuddiodd gweithwyr eraill bod croesi rheolwyr y GIG yn golygu goblygiadau cryf, ac mae adroddiadau bod Walker wedi derbyn bygythiad cyfreithiol am gynnal y cyfweliad heddiw.