Oscar Pistorius
Mae’r athletwr Olympaidd a Pharalympaidd o Dde Affrica, Oscar Pistorius, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’i gariad.
Cafodd dynes 30 oed ei saethu yn ei phen a’i choes yng nghartref y pâr yn Pretoria y bore yma.
Mae yna adroddiadau mai’r model Reeva Steenkamp yw’r ddynes sydd wedi cael ei lladd.
Roedd adroddiadau’n dweud y bore yma fod Pistorius wedi camgymryd ei gariad am leidr ac wedi saethu ati.
Cadarnhaodd yr heddlu fod dyn 26 oed yn y ddalfa yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio.
Mae disgwyl i Pistorius ymddangos yn y llys yn ddiweddarach heddiw.
Dywedodd llefarydd fod parafeddygon wedi dod o hyd i gorff y ddynes.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn ardal Silver Lakes y ddinas.
Cafodd dryll 9mm ei ddarganfod ar y safle.
Oscar Pistorius yw’r athletwr cyntaf i gystadlu yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, a daeth i amlygrwydd yn Llundain yn 2012 yn y 400m a’r ras gyfnewid 4x400m.
Mewn datganiad, mynegodd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol eu siom o glywed am y digwyddiad, ond fe ddywedon nhw na fydden nhw’n gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.