Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth
Fe fydd myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn cael eu lletya ar safle fferm y brifysgol o Hydref 2014 ymlaen, yn hytrach nag yn neuadd breswyl Gymraeg Pantycelyn.

Mae datblygiad newydd gwerth £45m yn cael ei godi ar safle Fferm Penglais, ar dop y rhiw yn Aberystwyth, a bydd yn lletya 1,000 o fyfyrwyr mewn fflatiau stiwdio a rhai hunangynhaliol.

Mae’n dipyn o newid o’r hen neuadd Pantycelyn ble mae lletywyr yn rhannu ystafelloedd, a thai bach a chawodydd.

Hanes

Cafodd Neuadd Pantycelyn ei hagor yn 1951 a’i dynodi’n neuadd Gymraeg yn 1973, ac mae amryw o Gymry amlwg wedi treulio cyfnodau yno.

Nid yw’r brifysgol wedi dod i benderfyniad eto ar ddyfodol y neuadd. 

Dywed y brifysgol eu bod nhw wedi bod yn trafod y datblygiad newydd gydag undeb y myfyrwyr Cymraeg (UMCA) ac undeb myfyrwyr Aber fel bod y preswylfeydd yn cyd-fynd â dyheadau’r myfyrwyr.

Cwmni Balfour Beatty yw’r cynigwr sy’n cael ei ffafrio gan y brifysgol er mwyn datblygu’r safle.

Fel rhan o’r datblygiad bydd adeilad canolog yn cael ei godi fydd yn darparu gwasanaethau golchi dillad, storfa feics, cyfrifiaduron, a lle i fyfyrwyr gymdeithasu.