Mae swyddogion asiantaeth atomig y Cenhedloedd Unedig wedi gadael Iran heb sicrhau dêl ynglyn â datblygu arfau niwclear.
Yn ôl Herman Naeckerts, pennaeth yr asiantaeth, mae “gwahaniaeth barn” yn parhau rhwng y ddwy ochr, a dyna un o’r rhesymau pam na allen nhw ddod i gytundeb.
Mae wedi gwrthod dweud a ydi’r trafodaethau wedi symud yn eu blaenau.
Mae Iran yn gwadu eu bod nhw’n gweithio ar ddatblygu arfau niwclear, ac maen nhw’n honni fod pob gweithgaredd atomig yn hollol heddychlon.
Fe ddechreuodd y CU drafod gyda llywodraeth Iran dros flwyddyn yn ôl.