Jon Venables, yn 1993
Mae yna le i gredu bod llun diweddar o fachgen a gafodd ei garcharu am lofruddio James Bulger yn 1993 wedi ymddangos ar wefan gymdeithasol Twitter.

Enillodd Jon Venables a Robert Thompson yr hawl i gael hunaniaeth newydd pan gawson nhw eu rhyddhau o’r carchar.

Ymddangosodd llun o ddyn y mae rhai wedi ei enwi Jon Venables ar y wefan union 20 mlynedd ar ôl i’r bachgen 3 oed gael ei gipio a’i ladd gan y ddau oedd yn 10 oed ar y pryd.

Torri’r gyfraith

Mae swyddfa’r Twrnai Cyffredinol yn ceisio penderfynu a oedd y llun wedi torri cyfreithiau sy’n amddiffyn hunaniaeth Venables.

Gallai’r digwyddiad gyfateb i achos o ddirmyg llys.

Cafodd y llun ei rannu gan fwy na chant o ddefnyddwyr y wefan, ac mae’n bosib bod miloedd yn rhagor wedi gweld y llun.

Dywedodd un o ddefnyddwyr y wefan fod y dyn wedi brolio tra’n feddw mai fe oedd y llofrudd.