Dug a Duges Caergrawnt - ar wyliau yn Mustique
Mae cylchgrawn Eidalaidd wedi cyhoeddi lluniau newydd o o Kate Middleton, Duges Caergrawnt, ar wyliau yn y Caribî.

Mae Palas St James wedi beirniadu’r lluniau o’r dywysoges yn cerdded ar draeth gyda Dug Caergrawnt, Tywysog William ar eu gwyliau ar ynys Mustique.

Cafodd y lluniau eu cyhoeddi yn y cylchgrawn Chi, wnaeth gyhoeddi lluniau bronnoeth o Kate yn Ffrainc y llynedd.

Cyn-Brif Weinidog Yr Eidal, Silvio Berlusconi sy’n berchen ar y cylchgrawn.

Bicini

Mae’r lluniau diweddara’n dangos Duges Caergrawnt, sy’n feichiog, mewn bicini glas yn cerdded yn y môr.

Mae llun arall yn ei dangos hi a’i gwr yn cofleidio wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y traeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Palas St James: “Rydym yn siomedig bod lluniau o’r Dug a’r Dduges ar wyliau preifat yn debygol o gael eu cyhoeddi dramor.

“Mae hyn yn amlwg yn groes i hawl y pâr i gael preifatrwydd.”

Achos cyfreithiol

Does dim sicrwydd eto a fydd y pâr yn ystyried dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y cylchgrawn.

Mae yna adroddiadau bod y lluniau wedi cael eu tynnu oddi ar gwch gan ddefnyddio lens hir.

Mae disgwyl i’r lluniau diweddaraf gael eu cyhoeddi yn y cylchgrawn Woman’s Day yn Awstralia hefyd.