nick Clegg
Mae angen gweithredu byd-eang yn erbyn y cwmnïau mawrion sy’n osgoi talu trethi, wrth i’r broblem ymledu o wledydd cyfoethoca’r byd i’r gwledydd tlota’.

Dyna neges Nick Clegg wrth iddo baratoi ar gyfer ymweliad ag Affrica.

Mae Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dechrau ar daith dridiau ym Mozambique ac Ethiopia heddiw, fel rhan o gyfnod Prydain yn llywydd y grwp G8 o wledydd cyfoethoca’r byd.

Mae tynhau rheolau trethu rhyngwladol yn un o flaenoriaethau David Cameron, i’w trafod yn uwch-gynhadledd yr G8 yng Ngogledd Iwerddon ym mis Mehefin.