Mae aelodau seneddol yn Sbaen wedi pleidleisio o blaid ystyried rhoi statws diwylliannol arbennig i ymladd teirw.

Gallai’r penderfyniad yn y senedd beryglu gwaharddiadau rhanbarthol ar y digwyddiad diwylliannol poblogaidd a nodweddiadol.

Mae gwrthwynebwyr i’r gwaharddiad ar hyd y blynyddoedd wedi beirniadu trigolion Catalwnia ac wedi eu cyhuddo o geisio cryfhau eu hagenda am annibyniaeth drwy wahardd y gamp.

Cafodd deiseb ei chyflwyno i’r senedd, wedi’i llofnodi gan 590,000 o bobol, i ofyn iddyn nhw ystyried rhoi’r statws arbennig i’r gamp.

Pleidleisodd gwleidyddion o blaid trafod y mater o 180 i 40.

Pe bai’r gyfraith yn newid, gallai olygu y byddai gwaharddiadau rhanbarthol, gan gynnwys y rhai yng Nghatalwnia ac Ynysoedd y Caneri, gael eu diddymu.

Mewn gornestau, mae’r sawl sy’n fuddugol yn derbyn clustiau, cynffon neu draed y tarw yn wobr.

Mae gwrthwynebwyr i’r cynllun wedi beirniadu ymladd teirw ac wedi’i alw’n “farbaraidd”.

Pe bai’n derbyn y statws diwylliannol, mae’n bosib y byddai’r awdurdodau’n ei hyrwyddo ledled y wlad, ac mae yna awgrym y gallai ddwyn pwysau ar y Cenhedloedd Unedig i’w chydnabod fel rhan o dreftadaeth y genedl.