Dri mis wedi iddo gael ei ail-ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae Barack Obama wedi bod yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesa’.

Dywedodd, yn ei araith fawr neithiwr, fod tynnu milwyr allan o Afghanistan ac adfer yr economi ar frig ei agenda.

Yn ei araith gerbron y sesiwn gyfun yn y Gyngres, heriodd Obama ei gydweithwyr a’i wrthwynebwyr i gyfaddawdu er mwyn creu swyddi i adfer yr economi.

Mae mynd i’r afael â chyfreithiau mewnfudo, mesurau dryllau a newid hinsawdd hefyd yn debygol o gael cryn sylw yn y misoedd nesaf.

Gallai materion rhyngwladol ddwyn cryn sylw hefyd, yn enwedig wrth i Ogledd Corea gyhoeddi eu bod nhw wedi tanio dyfais niwclear.

Dywedodd Obama fod y weithred ddiweddaraf yn debygol o ynysu Gogledd Corea oddi wrth weddill y byd.

Bydd cytundeb masnach rhwng yr Unol Daleithiau ac Ewrop hefyd yn cael ei ddatblygu mewn ymgais i geisio gwella’r economi.

Cafodd ei araith ei darlledu ar nifer o orsafoedd teledu ledled yr Unol Daleithiau ac roedd disgwyl i filiynau o bobol wylio’r darllediad arbennig.