Owen Paterson, Gweinidog Amgylchedd Prydain - ym Mrwsel heddiw i drafod sgandal cig ceffyl
Mae safle prosesu cig ger Aberystwyth wedi’i gau fel rhan o ymchwiliad i honiadau bod olion cig ceffyl wedi cael eu darganfod ar y safle.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal ar safle Farmbox Meats yn Llandre ger Aberystwyth ddoe gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r heddlu.

Mae’n un o ddau safle yng ngwledydd Prydain sydd wedi cael eu cau fel rhan o’r helynt, ac mae’r safleoedd wedi cael eu beirniadu am gam-arwain cwsmeriaid.

Mae lladd-dy yn Swydd Efrog hefyd yn cael ei archwilio.

Ymchwilio

Mae’r awdurdodau’n ymchwilio i’r posibiliadau bod cig ceffyl wedi cael ei gynnwys mewn byrgyrs a kebabs ar y safle yn Llandre.

Ond mae cyfarwyddwr y cwmni, Dafydd Raw-Rees, yn mynnu fod ganddo drwydded i drin cig ceffyl ers rhyw dair wythnos.

Ar ôl ymchwilio safle Farmbox Meats ger pentre’ Llandre, mae’r awdurdodau wedi cario cig, ynghyd â rhestrau o enwau cwsmeriaid, oddi yno.

Gonestrwydd yn bwysig

Mewn datganiad, dywedodd Gweinidog Amaeth Llywodraeth Cymru, Alun Davies: “Mae gonestrwydd ac ymddiriedaeth yn hanfodol yn y gadwyn fwyd.

“Byddwn i’n gresynu pe bai’r honiadau’n cael eu cadarnhau.

“Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a’r Asiantaeth Safonau Bwyd er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â’r mater yn gyflym ac mewn modd penderfynol.”

Mae disgwyl canlyniadau’r profion ddydd Gwener.

Ar draws Ewrop

Roedd yna adroddiadau bod y cig ceffyl yn cael ei fewnforio o Ewrop.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd yr Amgylchedd Owen Paterson deithio i Frwsel i drafod y sefyllfa.