Mae gyrrwr wedi cael anafiadau difrifol i’w ben mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar Ffordd Blaenau’r Cymoedd brynhawn yma.

Cafodd gyrrwr y car arall ei gludo i’r ysbyty hefyd, ynghyd â dau o blant. Nid yw’n debyg bod eu hanafiadau nhw’n ddifrifol.

Digwyddodd y ddamwain ychydig cyn 2 o’r gloch ar yr A465 ger Pant ym Merthyr Tudful a chafodd yr heol ei chau am bedair awr rhwng Cefn Coed a Thop Dowlais. Mae hi bellach ar agor.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i’r digwyddiad.