Mae’r BBC ac Eos wedi dod i gytundeb dros dro sy’n golygu fod y gwaharddiad ar chwarae 30,000 o ganeuon Cymraeg wedi dod i ben am y tro.
Mae Radio Cymru heno’n medru chwarae caneuon aelodau Eos unwaith eto am y tro cyntaf ers Ionawr 1 pan ddechreuodd y boicot dros daliadau cerddorion.
Ond mae’r BBC yn pwysleisio mai cytundeb dros dro yw hwn a bod trafodaethau yn parhau rhwng Eos a’r BBC er mwyn dod i gytundeb parhaol. Fel rhan o’r cytundeb heddiw mae’r ddwy ochr wedi dweud eu bod nhw am gychwyn ar broses o gymodi annibynol tra’n paratoi ar gyfer tribiwnlys hawlfraint.
‘Datblygiad pwysig’
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies fod y cytundeb dros dro yn “ddatblygiad pwysig.”
“Mae cerddoriaeth Gymraeg yn hanfodol bwysig i Radio Cymru ac mae’r chwech wythnos ddiwethaf heb y gerddoriaeth wedi bod yn dipyn o her.
“Ein ffocws nawr yw cyrraedd cytundeb parhaol sy’n deg i gerddorion Cymraeg a thalwyr ffi’r drwydded.
“Mae’n galonogol ein bod nawr yn medru parhau gyda’n trafodaethau yn gwybod nad yw’r anghydfod bellach yn cael effaith ar raglenni Radio Cymru.”
Adfer gwasanaeth
Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, y bydd y BBC yn “adfer cerddoriaeth aelodau Eos i Radio Cymru ar unwaith.”
“Byddwn ni hefyd yn dychwelyd i amserlen lawn yr orsaf cyn gynted â phosib ac yn adfer yr oriau a gwtogwyd o ganlyniad i’r anghydfod mor fuan a sy’n ymarferol wythnos nesa.”