Mae 35% o berchnogion cŵn yng Nghymru wedi datgan bod cael ci wedi gwella eu hiechyd meddwl ac yn lleihau lefelau straen.
Yn ôl yr ymchwil a gafodd ei gomisiynu gan gwmni bwyd ci Lintbells, mae’r rheini sydd â chŵn yn cerdded dros 15 milltir yr wythnos a thua 870 milltir y flwyddyn yng Nghymru.
Mae 15% yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy cymdeithasol ac yn fwy o ran o’r gymuned hefyd, tra mae 28% yn dweud eu bod yn cerdded mwy ar ôl cael ci nag oedden nhw heb gi.
Yn ogystal, roedd canlyniadau holiadur OnePoll.com yn dangos bod 88% o’r perchnogion cŵn yn mwynhau mynd â’r ci am dro, ond bod diffyg amser yn rhwystr i 31% a bod prysurdeb gwaith yn effeithio ar 25%.
Cafodd 1,000 o bobol sydd â chi, a 1,000 o bobol sydd heb gi, eu holi yn rhan o’r ymchwil ar draws gwledydd Prydain.