Mae’r artist Casey Raymond a’r comedïwr Elis James wedi dod at ei gilydd i greu cardiau ‘Top Trumps’ ar gyfer Dydd Miwsig Cymru heddiw (Dydd Gwener, Chwefror 8).
Nifer cyfyngedig o 420 o baciau o’r cardiau sydd ar gael, ac maen nhw i’w darganfod mewn siopau gwahanol ar draws Cymru.
O fewn y pacedi mae cardiau sy’n cynnwys gwybodaeth am amryw o fandiau ac artistiaid Cymraeg, hen a newydd, gyda darluniau cartŵn o’r cerddorion.
Mae gwahanol sgôrs wedi eu rhoi i’r cerddorion mewn gwahanol gategorïau – dylanwad, nifer o albyms, natur arbrofol, delwedd seren bop, hyd gyrfa.
Er enghraifft, mae’r Super Furry Animals yn cael 58 am eu dylanwad, naw o albyms, 31 am eu natur arbrofol, 64 am eu delwedd seren bo, a hyd eu gyrfa yw 34 mlynedd.
Mae’r cardiau wedi eu rhoi am ddim gan Lywodraeth Cymru, trefnwyr Dydd Miwsig Cymru, i’r siopau – sydd yn eu tro yn cael penderfynu codi am y cardiau neu beidio.
Yn siop Recordiau Spillers yng Nghaerdydd maen nhw’n rhoi’r paced Top Trumps Miwsig Cymraeg am ddim i unrhyw un sy’n prynu record Gymraeg.
Y siopau sy’n cyflenwi’r Top Trumps:
Awen Meirion – Y Bala, 25 Stryd Fawr, LL23 7AG
Awen Menai, Stryd Y Bont, Porthaethwy, Ynys Môn, Cymru, LL59 5DW
Awen Teifi, 23 Stryd Fawr, Aberteifi, Ceredigion, Cymru, SA43 1HJ
Bys a Bawd, 29 Stryd Ddinbych, Llanrwst, Gwynedd, Cymru, LL26 0LL
Cerdd Ystwyth, Stryd Portland Uchaf, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 2DT
Pencerdd Cyf, 4 Station Approach, Penarth, Bro Morgannwg, Cymru, CF64 3EE
Siop Clwyd, 33 Stryd Fawr Pwll y Grawys, Dinbych, Sir Ddinbych, Cymru, LL16 3HY
Siop Cwlwm, Powis Hall Market, Bailey Head, Oswestry SY11 1PZ
Siop Dewi, Dewi Lewis, Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, Cymru, LL48 6BN
Siop Eifionydd, Porthmadog, Gwynedd, Cymru, LL49 9NU
Siop Gerdd Eifionydd, Porthmadog, Gwynedd, Cymru, LL49 9N
Siop Inc, 13 Stryd y Bont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 1PY
Siop Llyfrau The Great Oak Bookshop, Llanidloes, Powys, Cymru
Siop Lyfrau Elfair, 16 Heol Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych, Cymru, LL15 1B
Siop Lyfrau Lewis – 21 Madoc Street, Llandudno LL30 2TL
Siop Lyfrau Windsor, 9a Windsor Road, Penarth, Bro Morgannwg, Cymru, CF64 1JB
Siop Mabon a Mabli, Y Ganolfan Integredig, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 1PD
Siop Na-nog, 16 Y Maes, Caernarfon, Gwynedd, Cymru, LL55 2N£
Siop Sian, London House, Crymych SA41 3QE
Siop y Ganolfan, Neuadd Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, Cymru, CF47 8UB
Siop y Morfa, Y Rhyl, Sir Ddinbych, Cymru, LL18 1TR
Siop y Siswrn, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, Cymru, CH7 1NZ
Siop y Smotyn Du, Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7BB
Siop yr Hen Bost, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, Cymru, LL41 3AA
Diverse Music – 10 Charles Street, Newport, NP20 1JU
Andy’s records – 16 Northgate Street, Aberystwyth, SY23 2JS-
Derricks Music – 221 Oxford Street, Swansea SA1 3BQ
Cob Records – 1-3 Britannia Terrace, Porthmadog LL49 9NA
Picadilly records, Manceinion