Bydd y rhaglen ar gyfer gwarchod pobol agored i niwed rhag Covid-19 yn dod i ben yng Nghymru ddiwedd y mis.

Cafodd y Rhestr Cleifion a Warchodir ei ffurfio ddwy flynedd yn ôl er mwyn amddiffyn y bobol oedd prif swyddogion meddygol y Deyrnas Unedig yn credu oedd yn wynebu’r perygl mwyaf yn sgil y feirws.

Diolch i gyfraddau brechu “uchel iawn”, ac yn sgil gostyngiad yn y gyfradd drosglwyddo, mae Llywodraeth Cymru nawr yn paratoi i symud ymlaen o’r ymateb argyfwng i fyw yn ddiogel gyda’r feirws, ac mae cael gwared ar y rhestr yn rhan o’r camau hynny.

Bydd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ysgrifennu at bawb sydd ar y rhestr i roi gwybod iddyn nhw ei fod yn dod i ben ar Mawrth 31 2022, meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.

Cafodd y cyngor ar eu cyfer ei rewi ym mis Ebrill llynedd, ac ers hynny, mae pawb ar y rhestr wedi cael eu cynghori i ddilyn yr un cyngor â phawb arall.

Roedd Prif Swyddogol Meddygol wedi awgrymu ers tro nad oedd ganddo unrhyw fwriad o ailgyflwyno’r cyngor gwarchod, gan ddweud mai’r brechlyn yw’r amddiffyniad gorau yn erbyn y feirws.

‘Hyn y pandemig wedi newid’

“Mae bron i ddwy flynedd wedi pasio ers llunio’r rhestr ac rydym wedi dysgu llawer am y feirws ers hynny,” meddai Eluned Morgan.

“Mae’r brechlyn wedi newid hynt y pandemig ac wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng coronafeirws a salwch difrifol.

“Mae gennym nawr fynediad at driniaethau newydd sydd hefyd yn gallu atal salwch difrifol, yn enwedig ar gyfer pobl sy’n agored i niwed yn glinigol.

“Yn ystod cyfnod y pandemig, mae amgylchiadau personol rhai pobl ar y rhestr cleifion a warchodir wedi newid.

“Cafodd rhai pobol eu hychwanegu at y rhestr oherwydd eu bod yn cael triniaeth ar gyfer canser, er enghraifft; ond erbyn heddiw mae’r driniaeth wedi’i chwblhau’n llwyddiannus.

“Ychwanegwyd eraill oherwydd eu bod ar gwrs o feddyginiaeth benodol neu oherwydd eu bod yn dioddef o glefyd y galon ac yn feichiog.”

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag archfarchnadoedd, cwmnïau dŵr, ac awdurdodau lleol i roi’r gorau i rannu’r data am y rhestr, a sicrhau y bydd y rhestr yn cael ei ddileu’n ddiogel.

Cyhoeddi cynllun tymor hir i “fyw’n ddiogel” gyda Covid-19

Bydd Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf, ac ni fydd newid i’r rheolau am y tro